SL(6)238 –  Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Yn ddarostyngedig i rai newidiadau ac un ddarpariaeth drosiannol, mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022.

Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn yn darparu bod gweithwyr amaethyddol i gael eu cyflogi yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau sydd wedi eu nodi yn Rhannau 2 i 5 o’r Gorchymyn ac yn pennu’r graddau a’r categorïau gwahanol o weithiwr amaethyddol.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfraddau tâl isaf y mae rhaid eu talu i weithwyr amaethyddol. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer lwfans gwrthbwyso llety a all gael ei dynnu oddi ar dâl gweithiwr amaethyddol. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ar gyfer lwfans cŵn, lwfans ar alwad, lwfans gwaith nos a grantiau geni a mabwysiadu nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol.

Mae Rhan 4 yn darparu bod gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan yr amgylchiadau sydd wedi eu pennu. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynghylch cyfrifo faint o dâl salwch amaethyddol y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael. Mae taliad tâl salwch statudol i gyfrif tuag at hawl gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael amser i ffwrdd. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael seibiannau gorffwys, gorffwys dyddiol a chyfnod gorffwys wythnosol. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd sy’n pennu blwyddyn gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol ac ynghylch hawl y gweithiwr amaethyddol i gael gwyliau blynyddol a thâl gwyliau ac ynghylch taliad yn lle gwyliau blynyddol. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb â thâl oherwydd profedigaeth.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Gorchymyn cyn pen 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fydd y Senedd: (i) wedi'i diddymu, neu (ii) ar doriad sy’n fwy na phedwar diwrnod) o'r dyddiad y cafodd ei osod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(iv) - ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn

Daeth y Gorchymyn hwn i rym ar 6 Awst 2022 ond cymerodd effaith o 1 Ebrill 2022; mewn geiriau eraill, cafodd effaith ôl-weithredol. Cafodd Gorchymyn blaenorol 2022 (h.y. Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022) effaith ôl-weithredol hefyd.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi “oherwydd oedi wrth wneud Gorchymyn cyntaf 2022, nid oedd modd gwneud y Gorchymyn hwn yn unol â’r amserlen flynyddol arferol”.

Rydym yn nodi nad yw Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 yn darparu'n benodol y gall gorchmynion cyflogau amaethyddol gael effaith ôl-weithredol.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru:

§  pa faterion, os o gwbl, y mae ôl-weithredu’r Gorchymyn hwn wedi’u hachosi’n ymarferol i weithwyr amaethyddol a’u cyflogwyr, a pha annhegwch y mae’r ôl-weithredu wedi’i achosi?

§  gadarnhau a oes unrhyw drefniadau wedi'u rhoi ar waith i sicrhau y bydd y Gorchymyn nesaf yn cael ei symud ymlaen mewn modd mwy amserol, heb fod angen iddo gael effaith ôl-weithredol?

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae Erthygl 2(1) yn diffinio "fframwaith prentisiaethau" drwy gyfeirio at fframweithiau prentisiaethau sydd wedi'u cyhoeddi gan Lantra. Mae troednodyn yn rhoi linc i'r dudalen we a ganlyn: https://acwcerts.co.uk/web/frameworks-library. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y llyfrgell fframweithiau ar y dudalen we honno'n wag.

Mae hyn yn creu dryswch ynghylch ystyr term pwysig ("fframwaith prentisiaethau") a ddefnyddir yn y Gorchymyn. Mae hefyd yn gwneud y gyfraith yn anhygyrch.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro beth yw ystyr “fframwaith prentisiaethau” a sut y gall darllenwyr ddarganfod pa fframweithiau prentisiaeth ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru sydd wedi’u cyhoeddi gan Lantra.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau hefyd y bydd dyddiad unrhyw fframwaith prentisiaethau yn glir, fel bod y Gorchymyn ond yn cynnwys y fframweithiau prentisiaeth sydd eisoes wedi'u cyhoeddi. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn atal y Gorchymyn rhag cynnwys fframweithiau prentisiaeth yn y dyfodol – mae'n hanfodol osgoi cynnwys fframweithiau prentisiaeth yn y dyfodol oherwydd bod yr hyn a geir yn y fframweithiau hynny'n anhysbys ar hyn o bryd a byddai eu cynnwys yn y Gorchymyn yn gyfystyr ag is-ddirprwyo pŵer i ddeddfu i Lantra.

3. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae Erthygl 10 yn dweud bod yn rhaid i weithiwr amaethyddol gadw tystiolaeth ddogfennol o gymwysterau a phrofiad a enillwyd ganddo sy’n berthnasol i’w gyflogaeth; a bod yn rhaid iddo roi gwybod i’w gyflogwr os yw wedi ennill cymwysterau a phrofiad sy’n ei alluogi i gael ei gyflogi ar radd wahanol.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro sut y bydd y ddyletswydd statudol hon yn cael ei gorfodi?

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae erthyglau 29, 30 a 31 yn darparu ar gyfer seibiannau gorffwys, cyfnodau gorffwys dyddiol a chyfnodau gorffwys wythnosol. Mae'r erthyglau hyn yn cynnwys darpariaethau newydd sy'n berthnasol i weithwyr amaethyddol sydd o dan 18 oed.

Fodd bynnag, nid yw'r Memorandwm Esboniadol yn nodi o gwbl bod asesiad o’r effaith ar hawliau plant wedi’i gynnal. O dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau, roi sylw dyledus i ofynion, ymhlith pethau eraill, Rhan I o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

A all Llywodraeth Cymru gadarnhau ei bod wedi cydymffurfio â’r ddyletswydd honno wrth wneud y Gorchymyn a beth, os o gwbl, oedd y prif faterion a gododd fel rhan o’i hystyriaeth o’r Confensiwn?

Ymateb Llywodraeth Cymru

Craffu Technegol

Pwynt 1: Rheol Sefydlog 21.2(iv) - ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r deddfiad sy'n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw faterion nac annhegwch y mae cymhwyso'r Gorchymyn yn ôl-weithredol wedi eu hachosi'n ymarferol i weithwyr amaethyddol neu eu cyflogwyr.

Mae Llywodraeth Cymru a'r Panel yn cytuno bod rhaid i Orchymyn 2023 gael ei wneud mewn modd amserol a heb effaith ôl-weithredol. Cafodd Gorchymyn (Rhif 2) 2022 ei wneud yn hwyrach na'r dyddiad dod i rym arferol, sef 1 Ebrill, oherwydd yr oedi yn gwneud Gorchymyn 2022. Ni ddisgwylir i'r oedi yn gwneud Gorchymyn (Rhif 2) 2022 achosi oedi yn gwneud Gorchymyn 2023.

Cynhelir cyfarfodydd nesaf y Panel ar 5 a 6 Medi 2022, pan gaiff Gorchymyn drafft 2023 ei negodi a'i gytuno cyn ymgynghori â rhanddeiliaid. Mae swyddogion polisi wedi llunio amserlen yn nodi'r cerrig milltir allweddol a'r pethau allweddol i'w cyflawni er mwyn i'r Panel gytuno arnynt a fydd yn sicrhau bod Gorchymyn 2023 yn cael ei wneud erbyn 1 Ebrill 2023, fel y mae'r Panel yn ei fwriadu. 

Pwynt 2: Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi clicio ar y ddolen i'r llyfrgell fframweithiau ac mae yn gweithio. Mae'n amlwg o'r llyfrgell fframweithiau pa fframweithiau a gaiff eu cyhoeddi gan Lantra a dyddiad cyhoeddi pob un o'r fframweithiau hynny.

Y diffiniad o ‘fframwaith prentisiaethau’ yw “unrhyw un neu ragor o’r fframweithiau prentisiaethau cyfredol ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lantra, neu fersiynau blaenorol o’r fframweithiau prentisiaethau ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lantra”. Ym marn Llywodraeth Cymru mae'r defnydd o'r gair ‘cyfredol’ yn ei gwneud yn glir mai'r fframweithiau prentisiaethau hynny sydd wedi cael eu cyhoeddi cyn y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym a ystyrir.

Pwynt 3: Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae erthygl 10 wedi cael ei chynnwys yn y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol ers 2016. Fe'i cynhwysir er mwyn sicrhau bod cyflogeion amaethyddol yn cadw tystiolaeth ddogfennol o'u cymwysterau a'u profiad fel bod modd iddynt ddangos i'w cyflogwr fod ganddynt y cymwysterau a'r profiad angenrheidiol i'w cyflogi ar radd benodol. Ni fyddai Llywodraeth Cymru yn cynnig gorfodi'r ddarpariaeth hon. Yn syml, os nad yw cyflogeion yn cydymffurfio ag erthygl 10 nac yn cadw tystiolaeth ddogfennol o'u cymwysterau a'u profiad, na fyddant o bosibl yn gallu dangos i'w cyflogwr fod ganddynt y cymwysterau a'r profiad angenrheidiol i'w cyflogi ar radd benodol.

Craffu ar Rinweddau

Pwynt 4: Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Cynhaliwyd Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant mewn perthynas â'r Gorchymyn a chafodd ei gynnwys yn yr Asesiad Effaith Integredig. Ni roddwyd unrhyw sylw penodol i erthyglau 29, 30 na 31, gan fod yr erthyglau hyn yn adlewyrchu'r darpariaethau presennol sy'n ymwneud â seibiannau gorffwys a geir yn Rheoliadau Amser Gwaith 1998, ac sydd felly eisoes yn gymwys i gyflogeion amaethyddol yng Nghymru.

 

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

25 Awst 2022